2015 Rhif 1679 (Cy. 216) (C. 96)

MEINWEOEDD DYNOL, CYMRU

Gorchymyn Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 (Cychwyn) 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn, a wnaed gan Weinidogion Cymru, yn dwyn i rym ddarpariaethau Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 (“y Ddeddf”).

Mae erthygl 2 yn dwyn i rym ddarpariaethau penodol o’r Ddeddf ar 12 Medi 2015 at ddibenion gwneud rheoliadau.

Mae erthygl 3 yn dwyn i rym bob darpariaeth arall yn y Ddeddf ar 1 Rhagfyr 2015 ac eithrio—

(a)     is-adran 14(3)(b) (sy’n ei gwneud yn ofynnol cael cydsyniad y crwner o dan amgylchiadau penodol cyn gweithredu yn ôl awdurdod o dan adran 13 i breserfio rhan o gorff at ei thrawsblannu);

(b)     is-adran 15(4)(e); ac

(c)     adrannau 1, 2, 21 a 22, a ddaeth i rym ar 10 Medi 2013, pan gafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol.

 

 


2015 Rhif 1679 (Cy. 216) (C. 96)

MEINWEOEDD DYNOL, CYMRU

Gorchymyn Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 (Cychwyn) 2015

Gwnaed                                     9 Medi 2015

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau yn adran 21(1), (2) a (5) o Ddeddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013([1]).

Enwi a dehongli

1.(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 (Cychwyn) 2015.

(2)  Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 12 Medi 2015

2. Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym yw 12 Medi 2015—

(a)     adrannau 7 i 9 at ddiben gwneud rheoliadau;

(b)     adran 15, ac eithrio paragraff (e) o is-adran (4); ac

(c)     adran 20.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Rhagfyr 2015

3. Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym yw 1 Rhagfyr 2015—

(a)     adrannau 3 i 6;

(b)     adrannau 7 i 9 (i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym);

(c)     adrannau 10 i 13;

(d)     adran 14, ac eithrio paragraff (b) o is-adran (3); ac

(e)     adrannau 16 i 19.

 

 

Mark Drakeford

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

9 Medi 2015

 



([1]) 2013 dccc 5.